2 Samuel 22:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

8. “Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r nefoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.

9. Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

10. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.

11. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

12. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell,a chymylau duon yn orchudd.

2 Samuel 22