2 Samuel 22:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

19. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

20. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

21. “Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.

22. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

2 Samuel 22