2 Samuel 15:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gweddïodd Dafydd, “O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb.”

32. Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod â'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben.

33. Meddai Dafydd wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf;

34. ond os ei di'n ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr’, yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof.

2 Samuel 15