2 Macabeaid 9:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A dyma'r Arglwydd sy'n gweld popeth, Duw Israel, yn ei daro â chlefyd na ellid na'i wella na'i weld. Nid cynt y llefarodd y gair nag y cydiodd poen marwol yn ei goluddion, a chnofeydd mewnol dirdynnol,

6. fel y gweddai'n iawn i un oedd wedi dirdynnu coluddion pobl eraill ag arteithiau aml a dieithr.

7. Ond nid oedd dim pall ar ei haerllugrwydd; yn llawn traha, ac â'i ddicter yn erbyn yr Iddewon yn wenfflam, daliai ati i orchymyn brys. Ond wrth i'w gerbyd ruthro yn ei flaen, syrthiodd allan ohono. Yr oedd ei godwm mor drwm nes rhwygo'n dost bob aelod o'i gorff.

8. Ac felly, hwnnw a fu gynnau'n ei gyfrif ei hun gymaint yn uwch na dyn ag i fedru rhoi gorchmynion i donnau'r môr, ac yn tybio y gallai bwyso uchelderau'r mynyddoedd mewn clorian, dyma ef yn awr, wedi cael ei fwrw i lawr, yn cael ei gludo ar elor, yn amlygiad clir i bawb o allu Duw.

9. Yn wir, heidiodd pryfed allan o gorff y dyn annuwiol hwn, a dechreuodd ei gnawd ddadfeilio ac yntau'n dal yn fyw, gan beri poenau ingol. Llethwyd y fyddin gyfan gan ddrewdod ei gorff pydredig.

10. Ie, y dyn a oedd ychydig ynghynt yn tybio y gallai gyffwrdd â sêr y nefoedd, yn awr ni allai neb ei gludo o achos bwrn annioddefol y drewdod.

11. Y pryd hwnnw, felly, dechreuodd y brenin drylliedig roi'r gorau i'w holl draha, a dod i wir ddealltwriaeth wrth i frathiadau fflangell Duw ddwysáu o funud i funud.

12. Gan fethu goddef ei ddrewdod ei hun meddai, “Gweddus yw ymostwng i Dduw, a gweddus i fod meidrol yw peidio â'i gyfrif ei hun yn gydradd â Duw.”

13. Yna gweddïodd y dyn halogedig hwn ar yr Arglwydd, yr hwn na fyddai'n trugarhau wrtho mwyach, gan addo fel hyn:

14. byddai'n cyhoeddi rhyddid i'r ddinas sanctaidd, y bu'n brysio iddi i'w lefelu i'r llawr a'i throi'n gladdfa gyffredin;

15. byddai'n gwneud yr Iddewon yn gydradd bob un ohonynt â'r Atheniaid, er iddo benderfynu ynghynt nad oeddent yn deilwng o'u claddu, ond eu bod i'w lluchio allan, hwy a'u plant, yn fwyd i'r adar a'r bwystfilod;

16. byddai'n addurno â rhoddion gwych iawn y deml sanctaidd a ysbeiliwyd ganddo gynt, ac yn dychwelyd y llestri cysegredig bob un ar raddfa lawer helaethach; a byddai'n talu o'i gyllid personol y costau a gyfrifid i'r aberthau.

2 Macabeaid 9