2 Macabeaid 4:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Gadawodd Menelaus Lysimachus, ei frawd ei hun, yn ddirprwy archoffeiriad; a dirprwy Sostratus oedd Crates, capten y Cypriaid.

30. Dyna oedd y sefyllfa pan wrthryfelodd pobl Tarsus a Malus oherwydd rhoi eu dinasoedd yn anrhegion i Antiochis, gordderch y brenin.

31. Gan hynny, aeth y brenin i ffwrdd ar frys i adfer trefn, gan adael yn ddirprwy Andronicus, un o'r uchel swyddogion.

32. Tybiodd Menelaus fod hwn yn gyfle da iddo, a lladrataodd rai o lestri aur y deml a'u rhoi'n anrheg i Andronicus; yr oedd wedi gwerthu rhai eraill i Tyrus a'r dinasoedd o amgylch.

33. Pan gafodd Onias wybodaeth sicr am y gweithredoedd hyn hefyd, fe'u cyhoeddodd ar led ar ôl cilio am seintwar i Daffne ger Antiochia.

2 Macabeaid 4