2 Macabeaid 2:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Daeth rhai o'i gymdeithion yno ar ei ôl i nodi'r ffordd, ond ni lwyddasant i'w darganfod.

7. Pan ddaeth Jeremeia i wybod am hyn, fe'u ceryddodd, gan ddweud, ‘Anhysbys fydd y man hyd at yr amser y cynnull Duw ei bobl ynghyd a thrugarhau wrthynt;

8. y pryd hwnnw daw'r Arglwydd â'r pethau hyn i'r golwg unwaith eto, ac fe welir gogoniant yr Arglwydd a'r cwmwl, fel yr amlygwyd ef yn amser Moses, a hefyd pan weddodd Solomon am i'r deml gael ei chysegru'n deilwng.’ ”

2 Macabeaid 2