2 Macabeaid 12:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi gwneud y cytundeb hwn, aeth Lysias ymaith at y brenin, ac aeth yr Iddewon ati i drin y tir.

2. Ond yr oedd rhai o'r llywodraethwyr yn y gwahanol ranbarthau, Timotheus ac Apolonius fab Geneus, a hefyd Hieronymus a Demoffon, yn ogystal â Nicanor, capten y Cypriaid, yn gwrthod gadael iddynt fyw'n dawel a dilyn eu gorchwylion yn heddychlon.

3. A dyma'r anfadwaith annuwiol a gyflawnodd trigolion Jopa: heb unrhyw arwydd o elyniaeth tuag atynt, gwahoddasant yr Iddewon oedd yn byw yn eu plith i fynd, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, i mewn i gychod oedd yn barod ganddynt,

2 Macabeaid 12