2 Macabeaid 11:34-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt:“Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion.

35. Ynglŷn â'r cytundebau â chwi a wnaethpwyd gan Lysias, câr y brenin, yr ydym ninnau hefyd yn eu cymeradwyo.

36. Ond am y materion y barnodd ef fod yn rhaid eu cyfeirio at y brenin, ystyriwch hwy'n ofalus ac yna anfonwch rywun atom yn ddi-oed, fel y gallwn eu cyflwyno mewn modd a fydd yn fuddiol i chwi; oherwydd yr ydym yn cychwyn am Antiochia.

37. Brysiwch, gan hynny, i anfon rhywrai atom, i ninnau gael gwybod beth yw eich barn.

38. Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus yn y flwyddyn 148.”

2 Macabeaid 11