2 Macabeaid 11:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Y mae Menelaus wedi ein hysbysu am eich dymuniad i ddychwelyd i'ch cartrefi eich hunain.

30. Gan hynny, bydd amnest i unrhyw un fydd wedi dychwelyd erbyn y degfed ar hugain o fis Xanthicus.

31. Y mae caniatâd i'r Iddewon arfer eu bwydydd a'u cyfreithiau eu hunain megis cynt, ac nid aflonyddir ar neb ohonynt mewn unrhyw fodd o achos dim a wnaethpwyd mewn anwybodaeth.

32. Yr wyf hefyd yn anfon Menelaus i'ch calonogi.

33. Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus, yn y flwyddyn 148.”

34. Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt:“Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion.

2 Macabeaid 11