2 Macabeaid 10:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Aeth Macabeus ymaith i fannau lle'r oedd ei angen fwyaf, gan adael ar ei ôl Simon a Joseff, ynghyd â Sacheus a'i wŷr, a oedd yn ddigon niferus i warchae ar yr amddiffynfeydd.

20. Ond aeth gwŷr Simon yn ariangar, ac ildio i berswâd arian rhai o'r bobl yn yr amddiffynfeydd; am saith deng mil o ddrachmâu fe adawsant i rai ddianc.

21. Pan ddaeth adroddiad am y digwyddiad at Macabeus, fe gasglodd swyddogion y fyddin ynghyd, a chyhuddo'r dynion hyn o werthu eu brodyr am arian trwy ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn.

22. Ac felly dienyddiodd hwy am eu brad, ac yna goresgyn ar ei union y ddwy amddiffynfa.

23. Yn y frwydr bu llwyddiant ar bopeth oedd dan ei reolaeth, ac fe laddodd yn y ddwy amddiffynfa dros ugain mil o ddynion.

2 Macabeaid 10