2 Esdras 9:44-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. A phob awr a phob diwrnod o'r deng mlynedd ar hugain hynny bûm yn gweddïo, nos a dydd, ar y Goruchaf.

45. Yna, ar ôl deng mlynedd ar hugain, gwrandawodd Duw arnaf fi, dy wasanaethferch; sylwodd ar fy narostyngiad, ystyriodd fy nhrallod, a rhoddodd imi fab. Mawr iawn oedd y llawenydd a gawsom ynddo, myfi a'm gŵr a'n holl gymdogion, a mawr iawn oedd y gogoniant a roesom i'r Duw nerthol.

46. Meithrinais ef â phob gofal,

2 Esdras 9