2 Esdras 6:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. a phan fydd sêl wedi ei gosod ar yr oes sydd ar ddarfod. Yna gwnaf yr arwyddion a ganlyn: agorir y llyfrau yng ngolwg y ffurfafen, a chaiff pawb eu gweld yr un pryd.

21. Bydd babanod blwydd oed yn medru siarad; bydd gwragedd beichiog yn esgor yn gynamserol, wedi tri neu bedwar mis, a bydd eu plant yn fyw ac yn llamu o gwmpas.

22. Yn sydyn ymddengys mannau a heuwyd fel rhai heb eu hau, a cheir stordai llawn yn sydyn yn wag;

23. bydd yr utgorn yn seinio'n uchel, a daw dychryn ar unwaith ar bawb a'i clyw.

2 Esdras 6