2 Esdras 4:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A'r un modd cynllwyn tonnau'r môr, oherwydd safodd y tywod yn ddiysgog a'u rhwystro hwy.

18. Yn awr, pe bait ti'n farnwr ar y rhain, p'run ohonynt y byddit ti am ei gyhoeddi'n ddieuog, a ph'run ei gondemnio?”

19. Atebais fel hyn: “Yn ofer y cynllwyniodd y naill a'r llall ohonynt; oherwydd pennwyd y tir i'r coed, a gwely'r môr i gario ei donnau ef.”

20. “Yr wyt wedi barnu'n gywir,” meddai yntau. “Pam, ynteu, na fernaist yn gywir yn dy achos dy hun?

2 Esdras 4