2 Esdras 2:32-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. “Cofleidia dy blant nes i mi ddod, a chyhoedda iddynt drugaredd, am fod fy ffynhonnau yn llifo trosodd, heb ddim pall ar fy ngras i.”

33. Derbyniais i, Esra, orchymyn gan yr Arglwydd ar Fynydd Horeb, i fynd at Israel; ond pan ddeuthum atynt, fy nirmygu a wnaethant, a bwrw gorchymyn yr Arglwydd o'r neilltu.

34. Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.

35. Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.

36. Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr

37. Derbyniwch y rhodd a ymddiriedwyd i chwi gan yr Arglwydd, ac mewn gorfoledd diolchwch i'r Un sydd wedi'ch galw chwi i deyrnasoedd nefol.

38. Codwch a safwch; gwelwch yng ngwledd yr Arglwydd nifer y rhai sydd wedi eu selio,

39. y rhai sydd wedi ymadael â chysgod y byd, ac wedi derbyn gwisgoedd disglair gan yr Arglwydd.

40. Derbyn, Seion, y rhifedi sydd i ti, a chwblha nifer y rhai mewn gwisgoedd gwynion sydd i ti, y rhai sydd wedi cadw cyfraith yr Arglwydd.

2 Esdras 2