2 Esdras 16:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu?

7. A all unrhyw un droi yn ei ôl saeth a yrrwyd gan saethwr cryf?

8. Yr Arglwydd Dduw sy'n gyrru'r drygau, a phwy sydd i'w troi yn eu hôl?

9. Bydd tân yn mynd allan o'i lid ef, a phwy sydd i'w ddiffodd?

2 Esdras 16