2 Esdras 15:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Galared yr Aifft a'i holl sylfeini dan bla'r chwipio a'r cystwyo y mae'r Arglwydd yn ei ddwyn arni.

13. Galared yr amaethwyr sy'n trin y tir am fod eu had yn pallu, a'u coed yn cael eu difetha gan falltod a chenllysg, a chan dymestl ofnadwy.

14. Gwae'r byd a'i drigolion!

15. Oherwydd y mae'r cleddyf wedi nesáu i ddwyn dinistr arnynt hwy. Bydd un genedl yn codi i ymladd yn erbyn y llall, â chleddyfau yn eu dwylo.

16. Anhrefn fydd rhan y ddynol ryw: y naill garfan yn cael y trechaf ar y llall, ac yn eu rhwysg heb falio dim am na'r brenin na'r pennaf o'u gwŷr mawr.

17. Bydd rhywun am fynd i ddinas, ond yn methu,

18. oherwydd o achos eu balchder bydd eu dinasoedd mewn terfysg, eu tai ar lawr, a'u trigolion mewn ofn.

2 Esdras 15