2 Esdras 12:40-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Pan glywodd yr holl bobl fod saith diwrnod wedi mynd heibio, a minnau heb ddychwelyd i'r ddinas, daethant hwy oll ynghyd, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, a dweud wrthyf:

41. “Pa ddrwg a wnaethom yn dy erbyn, a pha gam a wnaethom â thi, dy fod wedi'n llwyr adael ac ymsefydlu yn y lle hwn?

42. Oherwydd o'r holl broffwydi, ti yw'r unig un a adawyd i ni; yr wyt fel y sypyn olaf o rawnwin y cynhaeaf gwin, fel llusern mewn lle tywyll, ac fel hafan i long a arbedwyd rhag y storm.

2 Esdras 12