2 Cronicl 19:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dychwelodd Jehosaffat brenin Jwda yn ddiogel i'w dŷ yn Jerwsalem.

2. A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn.

3. Eto, y mae daioni ynot, oherwydd fe dynnaist ymaith ddelwau Asera o'r wlad, a rhoddaist dy fryd ar geisio Duw.”

4. Yr oedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond yn dal i fynd allan ymysg y bobl o Beerseba hyd fynydd-dir Effraim, a dod â hwy'n ôl at ARGLWYDD Dduw eu tadau.

5. Gosododd farnwyr ar y wlad, un ymhob un o ddinasoedd caerog Jwda,

2 Cronicl 19