2 Brenhinoedd 3:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ond glynodd yn ddiwyro wrth bechod Jeroboam fab Nebat, yr un a barodd i Israel bechu.

4. Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.

5. Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.

6. Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.

2 Brenhinoedd 3