2 Brenhinoedd 15:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwnaeth Salum fab Jabes gynllwyn yn ei erbyn ac ymosod arno yn Ibleam a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.

11. Am weddill hanes Sechareia, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

12. Dyma addewid yr ARGLWYDD i Jehu: “Bydd plant i ti yn eistedd ar orsedd Israel hyd y bedwaredd genhedlaeth.” Ac felly y bu.

2 Brenhinoedd 15