1 Samuel 14:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig.”

7. Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.”

8. Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt.

9. Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt.

1 Samuel 14