1 Macabeaid 9:65-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. Ond gadawodd Jonathan ei frawd Simon yn y dref, a mynd allan i'r wlad, heb ond ychydig o wŷr i'w ganlyn.

66. Trawodd Odomera a'i frodyr a meibion Phasiron yn eu pabell, a dechreusant ymosod a mynd i'r gad gyda'u lluoedd.

67. Daeth Simon a'i wŷr hwythau allan o'r ddinas a rhoi'r peiriannau rhyfel ar dân. Ymladdasant yn erbyn Bacchides a'i orchfygu.

68. Buont yn achos gofid mawr iddo, oherwydd fod ei gynllun a'i gyrch bellach yn ofer.

1 Macabeaid 9