1 Macabeaid 9:41-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Trowyd y briodas yn alar, a sŵn yr offerynnau cerdd yn alarnad.

42. Wedi iddynt lwyr ddial gwaed eu brawd, dychwelsant at gors yr Iorddonen.

43. Clywodd Bacchides am hyn, a daeth â llu mawr ar y Saboth hyd at lannau'r Iorddonen.

44. Dywedodd Jonathan wrth ei wŷr, “Gadewch inni ymosod yn awr ac ymladd am ein bywydau, oherwydd nid yw arnom heddiw fel y bu o'r blaen.

45. Oherwydd edrychwch, mae hi'n frwydr arnom o'r tu blaen ac o'r tu ôl; y mae dyfroedd yr Iorddonen o boptu, a chors a drysni; nid oes ffordd allan.

46. Gan hynny llefwch yn awr ar y Nefoedd am gael eich achub o law ein gelynion.”

47. Dechreuodd y frwydr; estynnodd Jonathan ei law i daro Bacchides, ond camodd ef yn ôl oddi wrtho.

1 Macabeaid 9