1 Macabeaid 9:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd Demetrius fod Nicanor a'i lu wedi syrthio mewn brwydr, anfonodd Bacchides ac Alcimus eilwaith i wlad Jwda, ac asgell dde ei fyddin gyda hwy.

2. Teithiasant ar hyd y ffordd sy'n arwain i Gilgal a gwersyllu gyferbyn â Mesaloth yn Arbela. Cipiasant hi a lladd llawer o bobl.

3. Ym mis cyntaf y flwyddyn 152 gwersyllasant gyferbyn â Jerwsalem,

4. a mynd yn eu blaen oddi yno i Berea gydag ugain mil o wŷr traed a dwy fil o wŷr meirch.

5. Yr oedd Jwdas eisoes yn gwersyllu yn Elasa, a thair mil o wŷr dethol gydag ef.

6. Pan welsant fod rhifedi lluoedd y gelyn yn lluosog, dychrynasant yn ddirfawr; a gwrthgiliodd llawer o'r gwersyll, heb adael dim ond wyth cant ohonynt.

1 Macabeaid 9