1 Macabeaid 8:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,

22. a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:

23. “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.

24. Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,

25. bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.

1 Macabeaid 8