1 Macabeaid 6:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. ac oni achubi di y blaen arnynt ar fyrder, fe wnânt bethau gwaeth na hynny, ac ni fydd modd iti eu hatal.”

28. Aeth y brenin yn ddig pan glywodd hyn. Casglodd ynghyd ei holl Gyfeillion, capteiniaid ei lu a swyddogion ei wŷr meirch.

29. Daeth lluoedd o filwyr cyflog o deyrnasoedd eraill ac o ynysoedd y moroedd i ymuno ag ef.

30. A rhifedi ei luoedd oedd can mil o wŷr traed, ugain mil o wŷr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantod wedi arfer â rhyfel.

31. Daethant drwy Idwmea a gwersyllu yn erbyn Bethswra, ac ymladd dros ddyddiau lawer; codasant beiriannau rhyfel, ond gwnaeth yr Iddewon gyrch arnynt a'u llosgi â thân, ac ymladd yn wrol.

32. Ymadawodd Jwdas â'r gaer a gwersyllu yn Bethsacharia, gyferbyn â gwersyll y brenin.

1 Macabeaid 6