1 Macabeaid 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd y Cenhedloedd oddi amgylch fod yr allor wedi ei hailgodi a'r deml wedi ei hailgysegru i fod fel yr oeddent o'r blaen, aethant yn gynddeiriog

2. a phenderfynu difodi pawb o hil Jacob a oedd yn eu plith. A dyna ddechrau lladd a dinistrio ymhlith y bobl.

3. Ar hyn aeth Jwdas i ryfel yn erbyn meibion Esau yn Idwmea, gan ymosod ar Acrabattene, oherwydd yr oeddent yn dal i warchae ar Israel. Trawodd hwy ag ergyd drom a'u darostwng a'u hysbeilio.

1 Macabeaid 5