1 Macabeaid 4:53-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. ac offrymu aberth yn unol â gofynion y gyfraith ar yr allor newydd yr oeddent wedi ei hadeiladu i'r poethoffrymau.

54. Ar yr union adeg a'r union ddydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi hi, fe ailgysegrwyd yr allor â chaniadau, â thelynau a phibau a symbalau.

55. Syrthiodd yr holl bobl ar eu hwynebau gan addoli a bendithio'r nef, a barodd lwyddiant iddynt.

56. Buont yn dathlu ailgysegru'r allor am wyth diwrnod, ac yn offrymu poethoffrymau mewn llawenydd, ac yn aberthu aberth gwaredigaeth a mawl.

57. Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.

1 Macabeaid 4