1 Macabeaid 13:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.

5. Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.

6. Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”

7. Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,

8. ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.

9. Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”

10. Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.

1 Macabeaid 13