1 Macabeaid 13:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.

25. Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.

26. Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.

27. Ar feddrod ei dad a'i frodyr adeiladodd Simon gofadail y gallai pawb ei gweld, a'i hwyneb a'i chefn o gerrig nadd.

1 Macabeaid 13