1 Macabeaid 13:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Paratôdd Tryffo ei holl wŷr meirch i fynd, ond y noson honno bu eira mawr iawn, ac nid aeth oherwydd yr eira. Ciliodd a mynd i Gilead.

23. Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.

24. Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.

25. Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.

1 Macabeaid 13