1 Macabeaid 12:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. oherwydd y mae gennym gymorth y nef i'n cynorthwyo; a chawsom ein gwaredu oddi wrth ein gelynion, a chawsant hwythau eu darostwng.

16. Dewisasom felly Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, ac yr ydym wedi eu hanfon at y Rhufeiniaid i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a oedd rhyngom a hwy gynt.

17. Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.

18. Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”

1 Macabeaid 12