1 Macabeaid 11:73-74 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

73. Pan welodd ffoaduriaid ei fyddin ef hyn dychwelsant ato, ac ymlid y gelyn gydag ef, hyd at eu gwersyll yn Cedes; ac yno y gwersyllasant.

74. Syrthiodd tua thair mil o wŷr yr estroniaid y dydd hwnnw, a dychwelodd Jonathan i Jerwsalem.

1 Macabeaid 11