1 Macabeaid 11:62-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.

63. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi cyrraedd Cedes yng Ngalilea gyda llu mawr, gan fwriadu ei atal rhag cyflawni ei amcan.

64. Aeth i'w cyfarfod, ond gadawodd ei frawd Simon yn Jwdea.

65. Gwersyllodd Simon o flaen Bethswra, ac wedi ymladd yn ei herbyn dros ddyddiau lawer, gosododd hi dan warchae.

1 Macabeaid 11