1 Macabeaid 1:44-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.

45. Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,

46. a digysegru'r deml a'r offeiriaid.

47. Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;

48. yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd,

49. ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.

50. Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.

1 Macabeaid 1