1 Macabeaid 1:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ymosododd ar yr Aifft gyda byddin enfawr, yn cynnwys cerbydau rhyfel ac eliffantod a gwŷr meirch a llynges fawr, a dechrau rhyfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft.

18. Trodd Ptolemeus yn ôl oddi wrtho a ffoi, a lladdwyd llawer o'i filwyr.

19. Cymerwyd meddiant o'r trefi caerog yng ngwlad yr Aifft, ac ysbeiliodd Antiochus y wlad.

20. Wedi iddo oresgyn yr Aifft, yn y flwyddyn 143, dychwelodd Antiochus ac aeth i fyny yn erbyn Israel a mynd i Jerwsalem gyda byddin gref.

21. Yn ei ryfyg aeth i mewn i'r deml a dwyn ymaith yr allor aur, a'r ganhwyllbren gyda'i holl offer,

1 Macabeaid 1