1 Ioan 5:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?

6. Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.

7. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu,

8. yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn.

9. Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab.

10. Y mae gan y sawl sy'n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo'i hun. Y mae'r sawl nad yw'n credu Duw yn ei wneud ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu'r dystiolaeth y mae Duw wedi ei rhoi.

1 Ioan 5