1 Esdras 9:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Gwnaethant addewid i fwrw allan eu gwragedd ac offrymu hyrddod yn foddion puredigaeth am eu cyfeiliornad.

21. O feibion Emmer: Ananias, Sabdaius, Manes, Samaius, Jiel ac Asarias.

22. O feibion Phaiswr: Elionais, Massias, Ismael, Nathanael, Ocidelus a Salthas.

23. O'r Lefiaid: Josabdus, Semeïs, Colius (hynny yw Calitas), Pathaius, Jwda a Joanas.

24. O'r cantorion: Eliasibus, Bacchwrus.

1 Esdras 9