1 Esdras 8:81-85 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

81. ac anrhydeddu teml ein Harglwydd ac ailgodi adfeilion Seion er mwyn rhoi i ni droedle cadarn yn Jwda a Jerwsalem.

82. Ac yn awr, Arglwydd, a'r pethau hyn gennym, beth a ddywedwn ni? Oherwydd yr ydym wedi torri dy orchmynion, a roddaist trwy dy weision y proffwydi gan ddweud,

83. “Y mae'r wlad yr ydych yn mynd i'w hetifeddu yn wlad halogedig, wedi ei halogi gan y brodorion cenhedlig a'i llenwi ganddynt â'u hanifeiliaid.

84. Am hynny, peidiwch â rhoi eich merched mewn priodas i'w meibion na chymryd eu merched hwy i'ch meibion chwi,

85. a pheidiwch byth â cheisio heddwch â hwy; ac felly fe fyddwch yn gryf, a mwynhau braster y wlad a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.”

1 Esdras 8