1 Esdras 8:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Meddai Esra ar wybodaeth mor llwyr fel nad esgeulusai unrhyw ran o gyfraith yr Arglwydd na'i gorchmynion, a dysgai i Israel gyfan y deddfau a'r barnedigaethau i gyd.

8. Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:

9. “Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion.

1 Esdras 8