1 Esdras 8:39-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy.

40. O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.

41. “Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy.

42. Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,

43. anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,

44. Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus,

45. a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy,

46. gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.

1 Esdras 8