1 Esdras 5:39-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. a chymryd ei enw. Pan chwiliwyd yn aflwyddiannus am gofnod o'u hachau yn y rhestr, fe'u hataliwyd rhag gwasanaethu fel offeiriaid,

40. a gwaharddodd Nehemeia ac Attharias iddynt gyfranogi o'r pethau cysegredig nes y ceid archoffeiriaid yn gwisgo'r Wrim a'r Twmim

41. Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;

42. eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.

1 Esdras 5