1 Esdras 4:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;

9. os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.

10. Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,

11. tra maent hwy'n gwylio o'i gwmpas. Ni chaiff un fynd i ymhél â'i orchwylion ei hun; nid ydynt yn anufuddhau iddo.

1 Esdras 4