1 Esdras 3:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”

12. Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”

13. Pan ddeffrôdd y brenin, cymerasant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.

14. Yna anfonodd a galw ynghyd holl arweinwyr Persia a Media, y penaethiaid, y cadfridogion, y swyddogion a'r is-swyddogion.

15. Eisteddodd yn ystafell y cyngor, a darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yng ngŵydd pawb.

1 Esdras 3