1 Cronicl 7:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, mab Aher.

13. Meibion Nafftali: Jasiel, Guni, Geser a Salum, meibion Bilha.

14. Meibion Manasse: Asriel, plentyn ei ordderchwraig o Syria. Hi hefyd oedd mam Machir tad Gilead;

15. cymerodd Machir wraig i Huppim a Suppim, ac enw ei chwaer oedd Maacha. Enw'r ail fab oedd Salffaad, ac yr oedd ganddo ef ferched.

16. Cafodd Maacha gwraig Machir fab, ac enwodd ef yn Peres a'i frawd yn Seres. Ei feibion ef oedd Ulam a Racem.

17. Mab Ulam: Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.

18. Hammolecheth ei chwaer ef oedd mam Isod, Abieser a Mahala.

19. Meibion Semida: Ahïan, Sechem, Lichi ac Aniham.

1 Cronicl 7