1 Cronicl 29:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Rhoddodd yr holl swyddogion a'r rhyfelwyr, a phob un o feibion y Brenin Dafydd, wrogaeth i'r Brenin Solomon.

25. Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.

26. Teyrnasodd Dafydd fab Jesse ar Israel gyfan am ddeugain mlynedd;

27. bu'n frenin am saith mlynedd yn Hebron a thair ar ddeg ar hugain yn Jerwsalem.

28. Bu farw'n hen ŵr mewn oedran teg, yn berchen ar gyfoeth ac yn llawn anrhydedd; a theyrnasodd ei fab Solomon yn ei le.

1 Cronicl 29