1 Cronicl 24:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i dŷ Dduw yn ôl y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel.

20. Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia;

21. o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf;

22. o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath.

23. Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.

1 Cronicl 24