1 Cronicl 21:25-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Felly talodd Dafydd chwe chan sicl o aur wrth eu pwysau i Ornan am y lle;

26. a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Galwodd ar yr ARGLWYDD, ac atebodd yntau ef trwy anfon tân o'r nefoedd ar allor y poethoffrwm.

27. A gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r angel roi ei gleddyf yn ôl yn ei wain.

1 Cronicl 21