1 Cronicl 21:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Daeth Dafydd at Ornan, a phan welodd Ornan ef aeth allan o'r llawr dyrnu ac ymgrymu iddo hyd lawr.

22. Dywedodd Dafydd wrtho, “Rho i mi'r llawr dyrnu, er mwyn i mi godi allor yno i'r ARGLWYDD; rho ef i mi am ei lawn bris, er mwyn atal y pla rhag y bobl.”

23. Meddai Ornan wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef a gwneud yr hyn a fyn; edrych, yr wyf yn rhoi'r ychen ar gyfer y poethoffrymau, a'r offer dyrnu yn danwydd a'r gwenith yn fwydoffrwm. Fe gei'r cwbl gennyf.”

24. Ond dywedodd y brenin wrth Ornan, “Na, rhaid i mi ei brynu am ei lawn werth. Ni chymeraf yr hyn sydd eiddot ti ac aberthu i'r ARGLWYDD boethoffrwm di-gost.”

25. Felly talodd Dafydd chwe chan sicl o aur wrth eu pwysau i Ornan am y lle;

1 Cronicl 21