1 Cronicl 12:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. am eu bod yn cario bwâu ac yn gallu taflu cerrig a saethu â'r bwa â'u llaw dde a'u llaw chwith. Benjaminiaid oeddent, o dylwyth Saul.

3. Ahieser a Joas meibion Semaa o Gibea oedd yr arweinwyr; Jesiwl a Phelet meibion Asmafeth; Beracha, a Jehu o Anathoth;

4. Ismaia o Gibeon, y grymusaf o'r Deg ar Hugain ac yn bennaeth arnynt; Jeremeia, Jehasiel, Johanan a Josabad o Gedera,

5. Elusai, Jerimoth, Bealeia, Semareia, Seffatia yr Haruffiad,

6. Elcana, Jeseia, Asareel, Joeser a Jasobeam y Corahiaid,

7. Joela a Sebadeia, meibion Jehoram o Gedor.

1 Cronicl 12